Cefndir

Dros 500 mlynedd yn ôl bu Llanwst a chaer goedwig Gwydyr yn Nyffryn Conwy yn gartref i wrthryfelwr, uchelwr, a bardd y mae ei gampau, boed yn wir neu beidio, wedi ennill iddo’r teitl o Robin Hood Cymru: Dafydd ap Siencyn.

Wedi’i lleoli yn nhref farchnad hanesyddol Llanrwst, Parc a Choedwig Gwydyr, bydd yr ŵyl deuluol hon yn mynd â chi ar daith yn ôl mewn amser i ddarganfod straeon a chwedlau canoloesol Cymreig. Mae’n bleser gan Gyngor Tref Llanrwst â’r gymuned eich gwahodd i ddilyn yn ôl traed y gwrthryfelwr lliwgar a lwyddiannus hwn, mewn gŵyl sy’n dathlu pobl, natur, diwylliant a hanes ein cymuned falch. O ailberfformiadau canoloesol i gorau o wŷr llawen, dyma benwythnos anturus wedi’i drefnu ar eich cyfer!

Profwch fywyd fel herwr gyda gwersi bwa saeth, chwedlau gwerinol, ac arddangosfeydd gan adar ysglyfaethus yng Nghaerdroea – labrinth coedwig fwyaf y byd, yn ddwfn yng Nghoedwig Gwydyr.

Profwch ryfela canoloesol ffurfiol a gweld ymladd cyffrous yn cael ei ail-greu.

Gwyliwch hanes yn dod yn fyw ar daith dywys drwy Gastell Gwydir a gwrandewch ar hanesion Dafydd ap Siencyn yn cael eu hadrodd yn Eglwys Sant Grwst.

Profwch fywyd dinesig yn farchnad hanesyddol, gwledd, blasu gwin, gig, cyngerdd, a llawer mwy yn Llanrwst!